Dyn wedi derbyn anafiadau difrifol yn dilyn gwrthdrawiad yn Y Rhyl
26/05/2022
Mae dyn wedi derbyn anafiadau difrifol sy'n peryglu ei fywyd yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd yn Y Rhyl nos Fercher.
Cafodd swyddogion wybod am y gwrthdrawiad ar Ffordd Dyserth rhwng beic modur oddi-ar ffordd a VW Golf ychydig cyn 20:00.
Cafodd y beiciwr modur ei gludo i Ysbyty Glan Clwyd mewn ambiwlans gydag anafiadau difrifol ac fe dderbyniodd gyrrwr y Golf man anafiadau.
Mae'r llu yn gofyn i unrhyw lygad-dystion neu unrhyw un a welodd y beic modur cyn y gwrthdrawiad i gysylltu â nhw gan ddefnyddio cyfeirnod 22000361614.