Disgwyl i Rishi Sunak gyhoeddi treth ar gwmnïau ynni fel rhan o becyn cymorth newydd

Mae disgwyl i'r Canghellor, Rishi Sunak, gyhoeddi treth ar gwmnïau ynni fel rhan o becyn cymorth newydd i fynd i'r afael ag effeithiau'r argyfwng costau byw.
Bydd manylion y cynllun newydd yn cael eu hamlinellu yn Nhŷ’r Cyffredin fore dydd Iau gyda'r bwriad o helpu'r rhai sydd yn dioddef fwyaf.
Fe allai mesurau gynnwys rhagor o gymorth i gartrefi incwm isel i wresogi eu tai yn sgil biliau ynni uwch, a thoriadau mewn treth cyngor neu VAT.
Mae disgwyl i dreth ar elw cwmnïau olew a nwy ariannu'r mesurau newydd - elw sydd wedi gweld cynnydd yn sgil costau rhyngwladol uwch.
Daw'r cymorth newydd yn sgil pryderon bod yr argyfwng costau byw am waethygu wrth i Ofgem gyhoeddi fod disgwyl i'r cap ar brisiau ynni gynyddu unwaith eto ym mis Hydref, gan godi £800 arall.
Er hyn, mae rhai wedi beirniadu amseru'r cyhoeddiad fel ffordd o dynnu sylw oddi ar ganfyddiadau adroddiad Sue Gray a gafodd ei gyhoeddi ddydd Mercher.
Darllenwch fwy yma.
Llun: Trysorlys y DU