Newyddion S4C

Gŵyl y Gelli yn dychwelyd gyda digwyddiadau wyneb i wyneb

26/05/2022
Gwyl y Gelli

Fe fydd Gŵyl y Gelli yn dychwelyd i Bowys gyda digwyddiadau wyneb i wyneb am y tro cyntaf ers 2019 ddydd Iau.

Mae’r ŵyl lenyddol yn cael ei chynnal am y 35ain tro eleni, gyda dros 500 o ddigwyddiadau rhwng 26 Mai a 5 Mehefin.

Dros y ddwy flynedd diwethaf mae’r ŵyl wedi ei chynnal ar-lein oherwydd cyfyngiadau Covid-19.

Eleni bydd yr ŵyl yn casglu arian ar gyfer Apêl Ddyngarol Wcráin a bydd adran o’r siop lyfrau yn cael ei chadw ar gyfer llenyddiaeth o Wcráin.

Ar draws yr 11 diwrnod bydd cyfres o ddigwyddiadau gyda nifer o Gymry yn cymryd rhan, gan gynnwys Syr Bryn Terfel, Cerys Matthews a Trystan Llŷr Griffiths, Catrin Finch, yr awduron Manon Steffan Ros a Caryl Lewis, a bardd plant Cymru Casi Wyn.

Dywedodd Dawn Bowden, y Dirprwy Weinidog dros y Celfyddydau a Chwaraeon: “Mae rhaglen fyd-eang Gŵyl y Gelli yn wahanol i unrhyw un arall yn y ffordd y mae’n canolbwyntio ar rai o’r pynciau mwyaf sy’n effeithio ar y byd heddiw.

“Tra ei fod yn arddangos talent Gymreig i’r byd, mae’r fformat hybrid newydd hefyd wedi rhoi mwy o gyfraniadau gan y dalent ryngwladol orau nag erioed o’r blaen.”

Bydd Cyn Ysgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithiau, Hillary Clinton, Prif Weinidog Yr Alban, Nicola Sturgeon, y newyddiadurwr Lyse Doucet a'r actor Benedict Cumberbatch hefyd ymysg y rheiny fydd yn cymryd rhan.

Mae’r rhaglen hefyd yn cynnwys sgyrsiau ar y pwnc merched mewn pŵer fel rhan o ddathliadau'r Jiwbilî i nodi 70 mlynedd ers dechrau teyrnasiad y Frenhines Elizabeth II.

Mae'r rhaglen lawn o ddigwyddiadau'r ŵyl yma.

Llun: Peter Curbishley

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.