Eisteddfod yr Urdd: Pafiliwn coch, gwyn a gwyrdd yn golygu bod 'pawb yn cael cyfle'
Eisteddfod yr Urdd: Pafiliwn coch, gwyn a gwyrdd yn golygu bod 'pawb yn cael cyfle'
Fe fydd "pawb yn cael cyfle" i berfformio ar lwyfan yn Eisteddfod yr Urdd eleni mewn tri phafiliwn gwahanol - coch, gwyn a gwyrdd.
Ddydd Llun fe fydd Eisteddfod yr Urdd yn cael ei chynnal wyneb yn wyneb am y tro cyntaf ers 2019, a hynny yn sgil pandemig Covid-19.
Dywedodd Siân Eirian, Cyfarwyddwr Dros-dro Eisteddfod yr Urdd wrth Newyddion S4C na fydd rhagbrofion yn cael eu cynnal yn Sir Ddinbych yn ôl yr arfer.
"Yn hytrach, mi fydd ganddo ni dri pafiliwn. Mi fydd ganddo ni bafiliwn coch, gwyn a gwyrdd. Pawb yn cael cyfle i gael llwyfan yn y fan honno felly dim rhagbrofion," meddai.
'Blwyddyn y canmlwyddiant'
Eleni hefyd, fe fydd mynediad ar gael am ddim i bobl i'r maes.
Y tro diwethaf i fynediad i'r maes fod am ddim oedd yn Eisteddfod Caerdydd a'r Fro yn 2019.
"Diolch i Lywodraeth Cymru am gymeryd y cam pwysig ac allweddol yma a sicrhau bod pawb yn cael cyfle i gymeryd rhan ac i gael blas ar y Gymraeg a’r celfyddyda’," dywedodd Siân Eirian.
"O ran y dyfodol, yn naturiol, alla i ddim siarad am y dyfodol ond yn croesawu y penderfyniad yn sicr am eleni a hitha’ yn flwyddyn arbennig, blwyddyn y canmlwyddiant."
Yn 2020 a 2021, cafodd Eisteddfod rithiol ei chynnal o'r enw Eisteddfod T, ac yn ôl y Cyfarwyddwr Dros-dro fe fydd elfennau o'r cystadlu yn bresennol yn yr ŵyl eleni hefyd.
"‘Dan ni wedi gwrando ar ein plant a’n pobl ifanc. O’dd ‘na wir apêl i’r cystadlaethau digidol yma.
"Mi fyddan nhw yn Eisteddfod yr Urdd yn Sir Ddinbych. Mi fydd yr hen ffefryn yna, yr anifail anwes mwya’ talentog, cystadleuaeth yodlo.
"Felly, mi rydan ni wedi ymgorffori’r cystadlaethau hynny a meddwl am y rheina falla nad ydyn nhw ddim isho dod i’r Eisteddfod ond fyddan nhw’n hoffi cystadlu ar y cystadlaethau llai traddodiadol."
Llun: Martin Fraser