'Diwrnod truenus arall yn America' wedi i 19 disgybl a dau oedolyn gael eu saethu'n farw
'Diwrnod truenus arall yn America' wedi i 19 disgybl a dau oedolyn gael eu saethu'n farw
Mae hi'n "ddiwrnod truenus arall yn America" wedi i o leiaf 19 o blant a dau oedolyn gael eu saethu'n farw mewn digwyddiad mewn ysgol gynradd.
Fe fydd Ysgol Gynradd Robb yn ninas Uvalde ar gau am y dyfodol agos yn sgil y digwyddiad.
Dywedodd Dafydd Roche sy'n byw yn Texas wrth Newyddion S4C bod yna gwestiynau mawr yn cael eu gofyn am gyfreithiau dryll yn y wlad.
"Yn union fel y tragedy yn Sandy Hook, yn Santa Fe, ac yn Parkland ac i gyd o'r ysgolion, sinemas ac y llofruddiaethau diweddar mewn siop yn Buffalo, Washington ma' cwestiynau mawr yn cael eu gofyn am y deddfau drylliau yn y gwlad 'ma," ychwanegodd.
Tra bo Dafydd yn byw yn Dallas, chwe awr i'r gogledd o Uvalde, mae'n dweud fod y newyddion i'w deimlo mewn cymunedau ar hyd a lled y dalaith.
"Er bod Uvalde chwech awr i'r de i ni, yma yn Dallas ma'r sioc o'r tragedy yn gael ei theimlo gyda rhieni dros ein cymuned yn gofyn 'Beth os?'", meddai.
Yn ôl Llywodraethwr y Dalaith, Gregg Abbott, fe wnaeth dyn 18 oed ymosod ar Ysgol Gynradd Robb yn ninas Uvalde.
Mae'r saethwr bellach wedi marw.
For every parent, for every citizen, we have to make it clear to every elected official: It’s time for action.
— President Biden (@POTUS) May 25, 2022
We can do more. We must do more. pic.twitter.com/VDe0Wc7YT8
Mae'r Arlywydd Biden wedi dweud bod angen gweithredu ar newid rheolau dryll yn y wlad wedi'r digwyddiad.
Yma yng Nghymru, mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi disgrifio'r digwyddiad fel un "erchyll" gan estyn ei gydymdeimlad i deuluoedd y plant a'r athrawon fu farw.
Llun: Ysgol Gynradd Robb