Penodi tîm tywydd benywaidd cyntaf S4C
Penodi tîm tywydd benywaidd cyntaf S4C
Fe fydd gan S4C ei thîm tywydd benywaidd cyntaf yn fuan.
Bydd dau wyneb newydd yn ymuno â'r adran cyn diwedd mis Mai.
Bydd Branwen Gwyn a Tanwen Cray yn ymuno ag Alex Humphreys a Megan Williams ar y tîm cyflwyno.
Mae Branwen o Gaerdydd ac fe ddechreuodd ei gyrfa'n cyflwyno ar nifer o raglenni cyn troi ei llaw at gynhyrchu a sgriptio ar gyfer gwasanaeth plant S4C, Cyw, yn fwy diweddar.
Cafodd Tanwen Cray ei magu ym Mro Morgannwg, ac mae wedi treulio'r flwyddyn ddiwethaf yn astudio gradd MA Newyddiaduraeth Ddarlledu ym Mhrifysgol Caerdydd.
Dywedodd Branwen: “Pan welais i’r hysbyseb, nes i feddwl ar unwaith – ma' rhaid fi fynd am hwnna.
“Fel pawb, ma’n siŵr – ma' gen i ddiddordeb mawr yn y tywydd, ac ma’r tywydd yn cael effaith fawr ar fy hwyliau!
"Dwi’n caru’r haul ac unrhyw gyfle dwi’n cael fe fydda i allan yn yr haul yn gweithio, eistedd a mwynhau!
"Dwi’n edrych mlaen yn fawr at fod 'nôl yn cyflwyno ac at y wefr o gyflwyno’n fyw.”
Ychwanegodd Tanwen: “Fi bob amser wedi meddwl mai un o’r swyddi gore mewn darlledu yw cyflwyno’r tywydd achos mae’n gyfle i gyfathrebu gydag ystod eang o wylwyr.
"Mae pawb ohonom a diddordeb yn y tywydd! Ma’r tywydd erbyn hyn yn cwmpasu pwnc mor bwysig hefyd a newid hinsawdd.
"Fi methu aros i ddechrau arni, ac ro’n i mor gyffrous pan glywais i mod i wedi cael y swydd.”
Mae’r tywydd yn rhan o wasanaeth Newyddion S4C ac yn cael ei ddarlledu o adeilad y BBC yn Sgwâr Canolog, Caerdydd.
Fe fydd Branwen a Tanwen i'w gweld yn cyflwyno'r tywydd ar deledu ac ar wasanaeth digidol Newyddion S4C am y tro cyntaf yn ystod yr wythnos nesaf.