Newyddion S4C

Rhif Deg ysgogodd y cyfarfod dadleuol rhwng Boris Johnson a Sue Gray

Sue Gray - Llun Llywodraeth y DU

 

Mae Rhif Deg wedi cyfaddef mai swyddog o Downing Street wnaeth gymell y cyfarfod rhwng y gwas sifil Sue Gray a'r Prif Weinidog Boris Johnson ddechrau mis Mai. 

Dros y Sul, awgrymodd ffynonellau yn Downing Street mai Sue Gray ei hun ofynnodd am y cyfarfod gyda'r Prif Weinidog er mwyn trafod amseriad ei hadroddiad i'r partïon a gafodd eu cynnal yn Rhif Deg a Whitehall yn ystod cyfnodau clo. 

Ond ddydd Llun, dywedodd llefarydd ar ran Boris Johnson mai swyddog o Rif Deg gododd y syniad o gynnal cyfarfod, gan awgrymu y byddai'n ddefnyddiol ar gyfer tîm Sue Gray. Fe dderbyniodd Ms Gray y cynnig, ac fe gyfarfu'r ddau rai wythnosau yn ôl.

Mae disgwyl i adroddiad Sue Gray gael ei gyhoeddi yr wythnos hon, dros fis wedi i Boris Johnson gael dirwy gan Heddlu'r Met am dorri rheolau Covid. 

Mae rhai gwleidyddion wedi mynegi pryder y gallai'r Prif Weinidog fod wedi dylanwadu ar gasgliadau'r adroddiad yn ystod y cyfarfod. Mae Boris Johnson yn mynnu y bydd hwn yn adroddiad annibynnol.  

Ac yn ôl yr Independent, mae'r Prif Weinidog ymhlith dwsinau o gynrychiolwyr Downing Street sydd wedi cael rhybudd y bydd eu henwau'n cael eu cyhoeddi yn adroddiad Sue Gray.

Rhagor o fanylion yma 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.