Dyn o Geredigion i hwylio o amgylch y byd yn ddi-stop
21/05/2022
Dyn o Geredigion i hwylio o amgylch y byd yn ddi-stop
Mae dyn 62 oed o Geredigion yn bwriadu hwylio o amgylch y byd ar ben ei hun heb stopio.
Mae Dafydd Hughes o Dal-y-bont ger Aberystwyth yn cymryd rhan yn y Global Solo Challenge y flwyddyn nesaf.
Bydd yr her yn dechrau a gorffen yn Sbaen a bydd yr hwylwyr yn pasio heibio Penrhyn Gobaith Da yn ne Affrica, Cape Leeuwin yn Awstralia a’r Cabo de Hornos yn ne America.
Bydd yr her yn cymryd tua 200 o ddiwrnodau i’w chwblhau ac mae Dafydd wedi bod yn paratoi ei gwch am ddwy flynedd.
Yr unig Gymro sydd wedi cwblhau her o’r fath hyd yma yw Alex Thomson o Fangor.