Newyddion S4C

Suzy Davies: Angen i'r Senedd 'edrych fel pobl Cymru'

ITV Cymru 21/04/2021

Suzy Davies: Angen i'r Senedd 'edrych fel pobl Cymru'

Mae cyn-Aelod o’r Senedd wedi dweud nad yw gwleidyddion Cymru yn “adlewyrchu’r bobl maen nhw’n eu cynrychioli”.

Mewn cyfweliad gyda Guto Harri, dywedodd Suzy Davies o’r Ceidwadwyr Cymreig ei bod yn poeni na fydd pobl ifanc yn medru uniaethu gyda gwleidyddion Cymru “os maen nhw’n gweld Senedd sy’n llawn dynion canol oed.”

Dywedodd fod angen mwy o amrywiaeth yn Senedd Cymru.

“Byddwn i’n hoffi gweld mwy o fenywod, mwy o bobl o liw a chefndiroedd difreintiedig, er enghraifft, fel bod y Senedd yn edrych fel pobl Cymru”.

Gallwch wylio’r cyfweliad yn llawn ar Y Byd yn Ei Le ar S4C nos Fercher am 8.25yh.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.