Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn ymchwilio i’w pherthynas gyda chwmni sydd â chysylltiadau â Rwsia

Newyddion S4C 19/05/2022

Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn ymchwilio i’w pherthynas gyda chwmni sydd â chysylltiadau â Rwsia

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn ymchwilio i’w pherthynas gyda chwmni ystadegau sydd â chysylltiadau gyda Rwsia.

Daw hynny wedi i Newyddion S4C dderbyn cadarnhad bod cynghreiriau pêl-droed y Ffindir a Gwlad Pwyl wedi penderfynu gorffen defnyddio cwmni InStat, sydd a’i gwreiddiau yn Rwsia, yn sgil y rhyfel yn Wcráin.

Dywed InStat eu bod nhw, "fel gweddill y byd, yn pryderu'n fawr am ymosodiad Rwsia ar Wcráin" ac nad oes gan eu cwmni "unrhyw gysylltiad â Llywodraeth Rwsia".

Mewn cyfweliad a Newyddion S4C, fe alwodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar chwaraeon, Tom Giffard, ar Gymdeithas bêl-droed Cymru i droi cefn ar ddefnyddio’r cwmni yn sgil rhyfel Wcráin: “Dwi’n credu ei bod hi’n bwysig iawn i’r Gymdeithas Bêl-droed dorri ei chontract gyda InStat gan fod gwreiddiau’r cwmni yn Rwsia ac mae cynghreiriau eraill wedi canfod bod cysylltiadau gan y cwmni yno o hyd.”

“Fe allai Cymru chwarae Wcráin fis nesaf. Byddwn i’n hoffi eu croesawu yma gyda chydwybod glir a gan wybod nad oes contract gan y gymdeithas a’r cwmni yma o hyd.”

Mae nifer o gwmnïau masnachol, gan gynnwys McDonalds, Amazon ac Apple wedi rhoi’r gorau i weithredu yn Rwsia yn sgil y rhyfel.

Ym mis Chwefror, cyhoeddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig y bydden nhw’n canslo contractau cyhoeddus gyda chwmnïau o Rwsia. Fe wnaeth llywodraeth Cymru'r un datganiad fis yn ddiweddarach.

Yn y byd chwaraeon hefyd, mae camau wedi eu cymryd yn erbyn timau a chwaraewyr o Rwsia yn sgil y rhyfel. Cafodd tîm pêl-droed Rwsia eu gwahardd o chwarae yng ngemau ail-gyfle cwpan y byd, ac mae chwaraewyr tenis o’r wlad hefyd wedi eu gwahardd rhag cystadlu yng nghystadleuaeth Wimbledon eleni. Y bwriad yw rhoi pwysau ar Vladimir Putin i orffen y gweithredu milwrol yn Wcráin.

Cadarnhaodd llefarydd ar ran cynghrair bêl-droed y Ffindir na fyddan nhw’n parhau a’u perthynas ag InStat wedi i’r cytundeb presennol ddod i ben ar ddiwedd y tymor “Oherwydd y sefyllfa yn Wcráin. Er yn dechnegol bod y cwmni ddim yn un Rwsiaidd, mae ganddi gysylltiadau agos â’r wlad o hyd” meddai.

Cadarnhaodd llefarydd ar ran cynghrair Gwlad Pwyl eu bod nhw wedi torri eu cytundeb ag InStat ddechrau mis Mawrth, yng nghanol y tymor pêl-droed. Dywedodd llefarydd ar ran InStat eu bod nhw’n ystyried camau cyfreithiol yn erbyn y gynghrair.

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran InStat bod uwch-reolwyr y cwmni "yn hollol wrthwynebus i ymosodiad Rwsia ar Wcráin". Er bod eu sylfaenydd a'r Prif Weithredwr yn dod o Rwsia, maen nhw'n dweud ei fod e bellach wedi symud i'r Unol Daleithiau ac nad oes unrhyw berthynas ganddo a Llywodraeth Rwsia a does dim sancsiynau yn ei erbyn.

Dywed eu bod nhw wedi dirwyn chwaer gwmni o Rwsia i ben oherwydd y rhyfel. Maen nhw'n cydnabod eu bod nhw'n dal i gyflogi rhai contractwyr yn Rwsia. Mae hefyd yn pwysleisio eu bod nhw'n cyflogi 42 o bobl yn Wcráin ac wedi bod yn cynnig cymorth iddyn nhw a'u teuluoedd.

Fe gadarnhaodd cymdeithas bêl-droed Cymru eu bod nhw’n defnyddio cwmni InStat ar y lefel ddomestig a rhyngwladol a’u bod nhw ar hyn o bryd yn ymchwilio i’w pherthynas gyda’r cwmni.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.