Boris Johnson: 50 o geiswyr lloches i gael eu hanfon o’r DU i Rwanda ymhen pythefnos

Mae 50 o geiswyr lloches wedi cael gwybod eu bod nhw’n mynd i gael eu hanfon i Rwanda yn y bythefnos nesaf.
Mewn cyfweliad gyda’r Daily Mail, dywedodd Prif Weinidog y DU Boris Johnson ei fod yn disgwyl tipyn o wrthwynebiad cyfreithiol ond y byddai’r Llywodraeth yn barod “am y frwydr.”
Daw hyn ar ôl i Mr Johnson gyhoeddi polisi fis diwethaf y byddai 'degau o filoedd' o geiswyr lloches yn cael eu hanfon i Rwanda.
Bwriad y polisi medd y llywodraeth yw ceisio lleihau nifer y bobl sy'n croesi'r sianel i'r DU yn anghyfreithlon.
Yn ôl y ffigyrau diweddaraf, mae 7,300 o ymfudwyr wedi croesi'r sianel i'r DU hyd yma'r flwyddyn hon, sydd deirgwaith y nifer a groesodd y llynedd.
Darllenwch fwy yma.
Llun: Sandar Csudai