Prosiectau niwclear fel y Wylfa i 'gynyddu biliau ynni yn y tymor byr'

Prosiectau niwclear fel y Wylfa i 'gynyddu biliau ynni yn y tymor byr'
Gallai prosiectau niwclear mawr fel Wylfa Newydd arwain at filiau ynni uwch yn y tymor byr, yn ôl Ysgrifennydd Busnes ac Ynni San Steffan.
Fe wnaeth Kwasi Kwarteng ymweld ag Ynys Môn i amlygu ei Strategaeth Diogelwch Ynni, sy’n cyfeirio’n benodol at gynllun Wylfa.
Ond mae gan ymgyrchwyr, yn ogystal â Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, bryderon am y cynlluniau.
Dywedodd Robat Idris o grŵp ymgyrch gwrth-niwclear ‘Pawb’ wrth raglen Newyddion S4C: “Dan ni yn ganol argyfwng costau byw, ’dan ni yn ganol argyfwng newid hinsawdd, ’dan ni ynghanol problemau dybryd ledled y byd, ’dan ni ynghanol problemau cyflogaeth.
“Dydy niwclear, efo’i beryglon, efo’i gost, efo’i waddol ddim yn ateb i unrhyw un o’r problemau rheiny. Mae ynni adnewyddol yn gallu helpu hynny”.
Ychwanegodd Mark Drakeford fod pobl eisoes yn wynebu heriau gyda'r argyfwng costau byw:
“Mae pobl yn wynebu nawr cynyddiad yn y costau byw, dwi ddim yn meddwl bydd pobl ishe gweld fwy na’r her sydd ’da nhw ar hyn o bryd," meddai.
'Ddim yn ffigwr mawr'
Mae Llywodraeth San Steffan wedi dynodi £120m i adeiladu wyth adweithydd niwclear newydd ar draws y DU erbyn 2030. Ond yn ôl rhai, mae angen gwneud llawer mwy na hynny.
“Mae £120m yn ‘headline number’, sy’n mynd i edrych yn dda yn y papurau newydd, ond tydi o ddim yn ffigwr mawr yng nghyd-destun y peth” meddai Dr Edward Thomas Jones, darlithydd economeg ym Mhrifysgol Bangor.
“Yn y tymor byr, mae ganddon ni’n argyfwng costau byw ar hyn o bryd, ac felly mae’n rhaid i’r llywodraeth ddod â pholisïau trwyddo i helpu pobl hefo costau egni, os ’di hynny’n golygu dod â mwy o ddisgownt, tax reliefs ar egni, ond hefyd helpu pobl bod yn effeithiol hefo defnyddio egni”.
Mae sawl ymdrech i ddatblygu cynllun Wylfa wedi methu yn y gorfenol, yn rhannol oherwydd arian. Ond mae arbenigwyr fel Sasha Wyn Davies – aelod o fwrdd y Sefydliad Niwclear - yn credu fod pethau’n wahanol erbyn hyn.
“Tro ’ma, mae’r sefyllfa yn wahanol, yn enwedig mae’r llywodraeth efo Strategaeth Diogel Ynni sydd wedi dod allan. Cyn hynny, ’dan ni wedi cael y 10-point plan,mae ’na targedau rŵan, mae ’na strategaeth, mae’r fframwaith yna i delifro tro ’ma”.