Eurovision: Y Gymraes a gynrychiolodd Ffrainc wrth ganu'n Llydaweg

14/05/2022
Elaine Morgan - Renne with Dan A Braz

Fe fydd cân Llydaweg yn cynrychioli Ffrainc yn Eurovision nos Sadwrn am y tro cyntaf ers 1996.

Alvan ac Ahez fydd yn canu’r gân Fulenn gan fynd benben â 24 o wledydd eraill.

Y tro diwethaf i gynrychiolwyr Ffrainc yn y gystadleuaeth ganu yn Llydaweg oedd yn 1996 – ac roedd Cymraes yn eu plith.

Roedd Elaine Morgan o Gaerdydd yn canu gyda Dan Ar Braz a’r band L’Heritage des Celtes yn Norwy’r flwyddyn honno, gan orffen y gystadleuaeth yn y 19eg safle.

“Dwi’n meddwl ei fod e’n bwysig iawn achos mae e’n rhan o’u diwylliant a dwi mor falch fod ganddyn nhw gân yn y Lydaweg eleni, er ei fod wedi cymryd dim ond 26 mlynedd i hynny ddigwydd. Dwi’n meddwl ei fod yn wych.”

Image
Ffrainc - Eurovision 2022
Alvan ac Alvaz yw'r cystadleuwyr cyntaf i ganu cân Llydaweg ar ran Ffrainc yn Eurovision ers 1996.  Llun: EBU/Corinne Cumming

'Profiad anhygoel'

Roedd Elaine yn canu gyda’r band ar y pryd, yn teithio Ffrainc, gan recordio albymau a fideos.

“Roedden nhw wedi penderfynu y bydden nhw’n hoffi’r gân i gynrychioli Ffrainc ar gyfer y flwyddyn honno ar gyfer 1996,” meddai.

“Felly yn llythrennol wrth inni ganu’r gân yn y stiwdio, roedd Dan yn derbyn galwad ffôn i ofyn iddo a fedran nhw ddefnyddio’r gân ac yn amlwg ein defnyddio ni i gynrychioli Ffrainc."

Yn ôl Elaine, mae llawer o waith yn digwydd y tu ôl i’r llen er mwyn gallu cynnal Eurovsion.

“Roedd yn brofiad anhygoel achos rydych chi yno am wythnos ac oherwydd bod gymaint ohonoch chi, rhyw 24, 25 gwlad, maen nhw’n gorfod eich gwahanu felly mae gennych chi lawer o ymarferion oherwydd mae’r ochr dechnegol ohono fe’n enfawr.”

Mae Elaine yn awyddus i fwy o ieithoedd lleiafrifol gael eu clywed ar lwyfan Eurovision yn y dyfodol ac yn meddwl y gallai cân Gymraeg gynrychioli’r Deyrnas Unedig rhyw ddydd.

“Mae e’r cyfystyr â chael cân Brydeinig yn y Gymraeg, dyna’r sefyllfa gyfatebol ac oni fyddai hynny’n ddigwyddiad i’w nodi?”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.