Newyddion S4C

The Alarm yn canslo gigs oherwydd salwch y canwr Mike Peters

Golwg 360 13/05/2022
Mike Peters
Mike Peters

Mae'r band roc The Alarm wedi canslo’u holl gigs am y tro yn sgil salwch y canwr, Mike Peters.

Mae Mr Peters wedi bod yn byw gyda chyflwr liwcemia, ac yn byw ag effeithiau niwmonia ar hyn o bryd.

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd bod "meddygon wedi argymell triniaeth a gorffwys am oddeutu tri mis gan fod ei salwch yn bwrw ei system imiwnedd".

Roedd gan The Alarm nifer o gigs ar y gweill gan gynnwys un yn Efrog Newydd fis nesaf, ac maen nhw’n dweud y bydd y trefnwyr Live Nation yn rhoi gwybod am ddyddiad newydd maes o law.

Darllenwch fwy yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.