Anrhydeddu Dylan Thomas gyda phlac Cymraeg ar ei gartref enedigol
13/05/2022Anrhydeddu Dylan Thomas gyda phlac Cymraeg ar ei gartref enedigol
Mae'r bardd Dylan Thomas wedi ei anrhydeddu gyda phlac Cymraeg ar ei gartref enedigol yn Abertawe ddydd Gwener.
Cafodd y plac ei ddadorchuddio ar drothwy Diwrnod Rhyngwladol Dylan Thomas.
Y Cyn Archdderwydd T James Jones, neu Jim Parc Nest, gafodd y fraint o ddadorchuddio'r plac, a'i syniad oedd cael plac i'r bardd.
Mae wedi cyfieithu rhan o waith Thomas i'r Gymraeg yn y gorffennol.
"Dros gyfnod hir o drosi gwaith Dylan Thomas, mae dylanwad y Gymraeg a Chymreictod ar y bardd wedi dod yn fwyfwy amlwg", meddai.
"Dwi'n credu o roi plac Cymraeg ochr yn ochr â'r Saesneg fe fyddwn yn pwysleisio'r Cymreictod sydd yn treiddio trwy ei greadigrwydd."
Mae Jim Parc Nest wedi bod ynghlwm â'r gwaith o godi arian ar gyfer y plac, gyda chefnogaeth o bob cwr o Gymru.
Dywed Cymdeithas Dylan Thomas y bydd unrhyw arian sy'n weddill yn cael ei ddefnyddio i hyrwyddo gwaith y bardd i gynulleidfa iau.
Llun: Darganfod Dylan Thomas
