Newyddion S4C

Galw am dargedau uwch i fynd i'r afael â thlodi plant

Newyddion S4C 12/05/2022

Galw am dargedau uwch i fynd i'r afael â thlodi plant

Mae Comisiynydd Plant Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i osod targedau uwch er mwyn mynd i'r afael â thlodi plant. 

Mae gan Gymru'r lefel uchaf o dlodi plant o holl wledydd y Deyrnas Unedig, gyda bron i draean o blant yn byw mewn tlodi. 

Dywedodd swyddfa Rocio Cifuentes fod rhaid i Lywodraeth Cymru gyhoeddi targedau "clir a chadarn" i fynd i'r afael â'r broblem. 

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud ei bod yn gwneud popeth o fewn ei gallu i ddelio gydag anghyfartaledd. 

Yn sgil yr argyfwng costau byw mae nifer o rieni yn pryderu am eu plant.

Un sydd yn pryderu'n arw yw Llywela Wharton, sydd yn wreiddiol o Flaenau Ffestiniog ond bellach wedi symud i Gaernarfon er mwyn arbed arian. 

Image
Llywela Wharton
Mae Llywela Wharton eisoes wedi mynegi ei phryder dros gostau byw ar raglen Pawb a'i Farn

Mae hi'n pryderu am yr effaith mae diffyg arian yn ei gael ar ei phlant. 

"Maen nhw yn colli allan ar pethe bach, socially ac adref hefyd," meddai. 

"Wneith y trowsus yna dymor arall? Yn lle just mynd ma’n dymor newydd dyna i chi school uniform newydd. Dylwn bod fi medru achos dwi gweithio. Dydy o ddim yn budget fi, dydy o ddim yna."

"Does gen i ddim pres ar ôl pob mis. A maen nhw yn sôn fod pethe am godi eto a dwi meddwl – lle dwi mynd? Be dwi gwneud?”

Yn ôl Llywela, mae'r gost o fagu plant wedi cynyddu'n sylweddol yn ystod y misoedd diwethaf ac mae hi'n methu darparu ar gyfer ei phlant yn yr un ffordd ag o'r blaen. 

"Dwi ar gyflog decent. Ond mae bocsys bwyd, costau teithio mynd â nhw nôl a 'mlaen, trips, cadw ar ben shoes, cadw ar ben dillad ysgol.

"Rhaid fi watchad be dwi rhoid.  Cyn hyn, sen i'n gwneud pizza, chips a bîns...mae'r bîns yn barod 'di sort of diflannu off y plât."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.