Peter Andre yn ymateb i sylwadau sarhaus Rebekah Vardy

Mae Peter Andre wedi ymateb yn dilyn sylwadau Rebekah Vardy, gwraig y pêl-droediwr Jamie Vardy, am ran o'i gorff.
Dywedodd y canwr bod y sylwad, a gyfeiriodd at ran penodol o'i gorff mewn cyfweliad gan Ms Vardy yn 2004, wedi ei wneud yn "destun jôc" am 15 mlynedd.
Daw hyn yn sgil achos llys enllib Ms Vardy yn erbyn Coleen Rooney, sy'n briod â Wayne Rooney.
Wrth gael ei chwestiynu gan gyfreithiwr Ms Rooney yn yr Uchel Lys, dywedodd Ms Vardy ei bod hi'n difaru gwneud y cyfweliad yn fawr, ac wedi cael ei gorfodi i'w wneud gan ei chyn-ŵr.
Mewn ymateb i'r digwyddiadau yn y llys, dywedodd Mr Andre "os y byddai dyn wedi gwneud sylwad fel hyn am rhan o'i chorff nad oedd yn wir, byddai hyn yn annerbyniol."
Daw'r achos enllib wedi i Ms Rooney gyhuddo Ms Vardy ym mis Hydref 2019 o rannu "negeseuon ffug" amdani i'r cyfryngau.
Mae Ms Vardy yn gwadu'r cyhuddiadau, ac wedi datgan achos o enllib yn erbyn Ms Rooney yn yr Uchel Lys yn Llundain.
Darllenwch fwy yma.