'Partygate': O leiaf 50 o ddirwyon ychwanegol

Mae o leiaf 50 o ddirwyon ychwanegol wedi’u cyflwyno i unigolion o ganlyniad i ymchwiliad yr heddlu i bartïon yn ystod y cyfnod clo yn Downing Street a Whitehall.
Ond mae Rhif 10 Downing Street wedi cadarnhau nad yw’r Prif Weinidog, Boris Johnson, yn un o’r rhai sydd wedi derbyn hysbysiad cosb newydd.
Dywedodd Heddlu'r Met ddydd Iau eu bod wedi gwneud mwy na 100 o gyfeiriadau am Hysbysiadau Cosb i'r Swyddfa Cofnodion Troseddol yn enwi unigolion sydd wedi torri rheolau COVID-19.
Darllenwch fwy yma.