Newyddion S4C

Gobeithion Wrecsam o gipio teitl Dinas Ddiwylliant y DU

Newyddion S4C 11/05/2022

Gobeithion Wrecsam o gipio teitl Dinas Ddiwylliant y DU

Mae beirniaid cystadleuaeth Dinas Ddiwylliant y DU 2025 wedi bod yn ymweld â Wrecsam ddydd Mercher, wedi i’r dref gyrraedd rhestr fer y gystadleuaeth.

Hefyd ar y rhestr fer mae Bradford, Durham a Southampton yn Lloegr.

Petai Wrecsam yn llwyddiannus, Y dref fydd yr ardal gyntaf yng Nghymru i ennill yr wobr. 

Mae disgwyl i’r beirniaid wneud eu gyhoeddi eu penderfyniad cyn ddiwedd mis Mai.

Fe fuodd y beirniaid yn ymweld â'r Cae Ras a Thraphont Pontcysyllte ddydd Mawrth. 

Cadeirydd y panel o feirniaid ydy Syr Phil Redmond, a oedd yn gyfrifol am y rhaglenni teledu Brookside, Grange Hill a Hollyoaks.

Coventry hawliodd deitl Dinas Ddiwylliant 2021-22, ac yn ôl Llywodraeth y DU, daeth hynny â buddsoddiadau gwerth £172m i’r ardal.

Mae Stephen Jones, un o’r bobl sy’n rhan o Dim Dinas Ddiwylliant Wrecsam, wedi dweud y bydd y buddsoddiad all ddod i Wrecsam pe baen nhw’n ennill yn "mynd i’r sefydliadau sydd angen cymorth", ond bydd hefyd yn gyfle i "fuddsoddi mewn sefydliadau newydd."

"Nid jyst cael parti mawr yn 2025’ yw’r bwriad, ychwanegodd, ond ‘bod hwn yn mynd i’r hir dymor, ac mae’n rhywbeth ’dan ni’n gallu gadael i’r cenedlaethau i ddod."

Image
Stephen Jones
Dywedodd Stephen Jones fod yr ymgyrch yn rhan o gynlluniau hir dymor i'r dref

Dywedodd Siwan Jones, perchennog siop leol, bod y gystadleuaeth wedi "rhoi enw i Wrecsam, mae o 'di rhoi cyhoeddusrwydd i'r dref ac i beth sydd yn y dref."

Un o'r sefydliadau sy’n gobeithio elwa o‘r cyhoeddusrwydd hyn ydy Côr Meibion Orffiws y Rhos, sydd wedi bod yn canu i'r beirniaid fel rhan o’u hymweliad.

Dywedodd Marc Williams, un o’r aelodau’r Orffiws, ei fod am “gadw’r traddodiad i fynd.”

"Mae 'na bob math o gerddoriaeth yn Wrecsam ei hun - bandiau ifanc, a bob math o bobl yn canu a gwneud pethau eraill hefyd," meddai.

"Dwi'n siŵr, os wneith pawb dynnu at ei gilydd, mi wneith Wrecsam roi cynnig da arni."

Ond beth bynnag fo’r canlyniad, does dim dwywaith bod pobl ardal Wrecsam yn teimlo fod cyrraedd rhestr fer Dinas Diwylliant 2025 eisoes wedi rhoi’r dref ar y map.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.