
Colli babi: ‘Angen chwalu’r tabŵ a chael fwy o gefnogaeth’
Colli babi: ‘Angen chwalu’r tabŵ a chael fwy o gefnogaeth’
Mae'r gantores Nesdi Jones wedi penderfynu siarad yn agored am ei phrofiad o golli babi gyda’r gobaith o “chwalu’r tabŵ a chael fwy o gefnogaeth” i ferched a theuluoedd sydd yn colli eu beichiogrwydd.
Mae un o bob pedwar beichiogrwydd yn diweddu mewn colli babi neu erthyliad naturiol.
Er bod colli babi yn gyffredin, does dim llawer o wybodaeth am pam ei fod yn digwydd, sy’n golygu nad yw'r rhan fwyaf o ferched yn darganfod achos eu colled, hyd yn oed os ydynt yn cael ymchwiliadau.
'Pwnc yn dabŵ'
Fis Chwefror eleni collodd Nesdi Jones o Gilgwri a’i phartner eu babi, saith wythnos ar ôl iddi feichiogi.
Wrth siarad gyda Newyddion S4C, dywedodd Ms Jones ei bod hi’n teimlo nad oedd modd siarad yn agored am ei cholled a’i galar yn gyhoeddus.
“Oherwydd bod y pwnc yn tabŵ ac mae cymdeithas yn ei weld o yn rhywbeth mor breifat doedd gen i neb i siarad efo,” meddai.
“Nes i ddim dweud wrth neb i gychwyn achos mae'n sgwrs mor awkward, o’n i ddim yn gwybod os o’n i’n cael siarad am fy mhrofiad. Ond y broblem ydy mae o mor gyffredin a rhywbeth ma' lot o ferched wedi stryglo efo."
Dywedodd bod sylwadau fel, ‘wel doeddet ti ddim wedi mynd llawer’ yn ychwanegu at y tabŵ ac yn tanseilio’r golled.
“O’n i a fy mhartner over the moon bo’ fi’n feichiog, ac unwaith ti’n gweld y ddwy lein 'na ar y prawf, ti yn drecha neud y planiau bach 'na yn dy ben,” ychwanegodd.

Roedd Ms Jones hefyd yn teimlo bod pwysau arni i “gario 'mlaen fel bod dim wedi digwydd” ar ôl derbyn diffyg cefnogaeth gan ei ysbyty lleol, Ysbyty Athrofaol Cilgwri, wedi iddi golli’r babi.
Disgrifiodd Ms Jones y driniaeth dderbyniodd ar ôl colli ei beichiogrwydd yn “ansensitif, bizzare ac yn non-existing i raddau”.
Ddyddiau wedi’r golled cafodd Ms Jones alwad yn gofyn iddi wneud prawf beichiogrwydd mewn pythefnos, ond ni chafodd esboniad pam oedd rhaid gwneud hyn.
Roedd yn rhaid i Ms Jones droi at y we i gael atebion am y poenau a’r sgil effeithiau eraill roedd hi’n ei brofi.
“O’n i angen rhyw fath o support system i ddeud be sy’n mynd i ddigwydd, sut dwi’n mynd i deimlo yn gorfforol achos ar un adeg o’n i mewn lot o boen a do’n i ddim yn gwybod pam.
“Bysa hyd yn oed pamffled wedi helpu yn esbonio’r sgil effeithiau jyst i chdi baratoi dy hun.”
Mae ymchwil diweddar yn rhybuddio y gall degau o filoedd o fenywod y flwyddyn yn y Deyrnas Unedig brofi symptomau anhwylder straen wedi trawma (PTSD) ar ôl colli beichiogrwydd.
Dywedodd llefarydd ar ran Ysbyty Athrofaol Cilgwri: “Rydym bob amser yn anelu at sicrhau bod rhieni sydd yn feichiog yn cael eu cefnogi ar bob cam o’u beichiogrwydd a thu hwnt. Rydym yn cydymdeimlo gyda’r claf ac mae’n ddrwg gennym na theimlodd ei bod yn cael cefnogaeth yn dilyn ei gofal yn yr ysbyty.”
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod pob bwrdd iechyd yn cynnig cymorth seicolegol ac emosiynol drwy’r Gwasanaeth Asesu Beichiogrwydd Cynnar.
“Rydym hefyd yn datblygu llwybr profedigaeth cenedlaethol fel y gall pobl gael mynediad hawdd at gymorth profedigaeth ledled Cymru ac rydym yn gweithio’n agos gyda byrddau iechyd ac elusennau, fel Sands and Bliss, sy’n gweithio’n galed i gefnogi pawb sy’n dioddef o feichiogrwydd a cholli babanod.”
Mae Ms Jones wedi sgwrsio am golli babi ar y cyfryngau cymdeithasol ac mae hi’n gobeithio y bydd chwalu’r tabŵ yn golygu fwy o gefnogaeth i ferched a theuluoedd sydd yn profi’r un golled.