Dynes yn dioddef anafiadau difrifol mewn gwrthdrawiad ar gyrion Bangor
Mae dynes wedi dioddef anafiadau difrifol all beryglu ei bywyd yn dilyn gwrthdrawiad ar gyrion dinas Bangor fore dydd Mercher.
Digwyddodd y gwrthdrawiad un cerbyd ar ffordd yr A4244 rhwng Glasinfryn a Phentir ychydig cyn 07:30.
Roedd y ddynes yn gyrru car Peugeot 207 du ar y pryd.
Cafodd ei chludo mewn ambiwlans awyr i Ysbyty Aintree yn Lerpwl.
Dywedodd Sarjant Jason Diamond o Uned Plismona'r Ffyrdd, Heddlu Gogledd Cymru: "Rydym yn apelio am wybodaeth gan unrhyw un oedd wedi gweld y gwrthdrawiad neu oedd yn teithio ar hyd yr A4244 ychydig cyn y gwrthdrawiad i gysylltu gyda ni.
"Rydym yn awyddus hefyd i siarad gydag unrhyw un sydd hefo lluniau dash-cam."
Mae'r ffordd yn parhau ar gau er mwyn i swyddogion o'r Tîm Ymchwiliadau Gwrthdrawiadau Fforensig gynnal gwaith ar y safle ac mae teithwyr yn cael eu dargyfeirio.
Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un sydd gyda gwybodaeth i gysylltu dros y we neu ffonio 101.