'Darlun cymysg' medd prif weithredwr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol wrth ddathlu'r deg

'Darlun cymysg' medd prif weithredwr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol wrth ddathlu'r deg
Ddeng mlynedd ers ei sefydlu, mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn dweud mai’r her nesaf fydd ehangu addysg a hyfforddiant i’r sector ol-16.
Gydag addysg cyfrwng Cymraeg mewn prifysgol yn cael ei gydnabod nawr “fel rhyw beth sy’n hollol dderbyniol”, un o brif flaenoriaethau’r Coleg ydy datblygu addysg a hyfforddiant Cymraeg ym maes addysg bellach a phrentisiaethau.
Mae’r nifer sydd yn astudio rhywfaint o’u cwrs gradd drwy’r Gymraeg wedi gostwng yn y 5 mlynedd ddiwethaf.
Pan sefydlwyd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ddeng mlynedd yn ôl, ryw ychydig dros dair mil o fyfyrwyr oedd yn astudio o leiaf rywfaint o’u cwrs yn Gymraeg.
Cynyddu’n gyflym wnaeth y nifer hwnnw i bron i chwe mil wedi 2016, cyn gostwng i 4,740 flwyddyn diwethaf.
Nifer sy’n astudio oleiaf 5 credyd o’u cwrs gradd yn y Gymraeg:
- 2010/11: 3,005
- 2016/17: 5,885
- 2019/20: 4,740
Wrth i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ddathlu degawd o waith mewn digwyddiad arbennig ddydd Mawrth, dywedodd prif weithredwr y Coleg, Dr Ioan Matthews bod “patrwm cymysg”.
“Fi'n croesawu'n fawr y cynnydd sydd di bod ar hyd yr amser,” meddai.
“Os edrychwn ni ar hyd ystod y meysydd ma'r cynnydd yn y ddarpariaeth yn sylweddol. Ma' 'na rai heriau di bod yn sicr, a ma' angen i ni fynd i'r afael â rheini.
“Ma' angen i ni ymgyrraedd tuag at y myfyrwyr hynny sydd yn dal i ddewis peidio astudio trwy gyfrwng y Gymraeg a bydd hwnna yn un o heriau a blaenoriaethau'r cynllun academaidd newydd.
“Dydy'r nifer ddim yn mynd i lawr, ma' 'na batrwm cymysg.”
Croesawodd y Prif Weithredwr gyllideb ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i gefnogi siaradwyr Cymraeg sydd yn dewis astudio tu allan i Gymru.
“Ma'n bwysig cofio hefyd fod hanner y siaradwyr Cymraeg sydd yn mynd i'r brifysgol yn dewis astudio tu allan i Gymru. A dyna'r math o heriau ma' angen i ni fynd i'r afael â nhw.
“Bydd y cyllid yn sicrhau bod rhain yn cynnal cyswllt gyda Chymru, gyda'r Gymraeg tra bo' nhw'n astudio.
“Ma' 'na eisoes rai projectau peilot ym meysydd fel meddygaeth a'r gyfraith a bydd 'na gyfle wedyn i annog myfyrwyr sy'n dewis astudio yn Lloegr, yn yr Alban, lle bynnag i ddychwelyd i Gymru i gyfrannu at fywyd Cymru ac i fyw a gweithio yma.”