Gwerthwr tocynnau yn frenin y cledrau

Gwerthwr tocynnau yn frenin y cledrau
Mae teithwyr trên o Gaerdydd Canolog i Fanceinion wedi cael gwledd o adloniant wrth i’r gwerthwr tocynnau ganu fersiwn o ‘We Are The Champions’ gan Queen.
Brynhawn Llun (Mai 9), wrth deithio ar Wasanaeth Trafnidiaeth Cymru, roedd y swyddog yn gwneud mwy na gwerthu a chasglu tocynnau.
Gydag effeithiau sain, addasodd y geiriau fymryn a chanu: “Next stop is Newport my friends”
"Newport, sunny Newport is next. It's sunny Newport, it's sunny Newport, time for a station, stay safe in Newport - our next stop!"
Yn teithio ar y tren i Fanceinion roedd Joe Pugh. Ar ôl ffilmio’r gwerthwr tocynnau yn canu ar y trên, fe gyhoeddodd y fideo ar y cyfryngau cymdeithasol.
Mewn neges ar Twitter, dywedodd:
“Dw’i ddim yn siŵr pwy oedd y tywysydd ar y gwasanaeth 16:50 o Gaerdydd Canolog i Fanceinion, ond maen nhw’n haeddu codiad cyflog am y cyhoeddiad hwn yn unig.”
Yn ôl Joe Pugh, fe ddechreuodd y canu wrth i’r trên adael y twnel cyn cyrraedd gorsaf drenau Casnewydd.
“Fe amserodd y peth yn reit dda” meddai. “Fe orffennodd ganu wrth i’r trên gyrraedd y platfform.”
“Fe wnaeth i mi chwerthin gan godi fy ysbryd ar brynhawn dydd Llun. Roedd gen i wên ar fy wyneb yr holl ffordd adref."
Fideo gan deithiwr, Joe Pugh a oedd yn teithio o Gaerdydd i Fanceinion.
Llun : Jeremy Segrott