Dyn 19 oed wedi marw mewn gwrthdrawiad ar yr A55 fore dydd Sul
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn ymchwilio yn dilyn marwolaeth dyn 19 oed mewn gwrthdrawiad ar yr A55 rhwng Dwygyfylchi a Chonwy am tua 01:35 fore dydd Sul.
Roedd y dyn yn gyrru Vauxhall Astra i gyfeiriad y dwyrain pan fu mewn gwrthdrawiad gyda cherbyd nwyddau trwm Volvo melyn.
Mae'r Uwch Grwner dros Ogledd Ddwyrain Cymru, Mr John Gittins, wedi cael gwybod.
Dywedodd Sarjant Raymond Williams o Uned Plismona'r Ffyrdd: "Estynnaf fy nghydymdeimlad dwysaf i deulu'r gŵr ifanc. Maent yn cael cefnogaeth gan Swyddog Cyswllt Teulu arbenigol ar hyn o bryd.
"Rwy'n annog unrhyw un welodd y damwain, neu rywun oedd yn teithio ar yr A55 rhwng Bangor a’r lleoliad ar amser y gwrthdrawiad i gysylltu â'n tîm cyn gynted â phosib i helpu gyda'n hymchwiliad. Rwy'n awyddus i glywed gan unrhyw un sydd hefo tystiolaeth ar dashcam o unrhyw un o’r cerbydau.
“Roedd y ffordd ar gau er mwyn i'r Uned Gwrthdrawiadau Fforensig gasglu tystiolaeth . Ail agorwyd y ffordd am 10:45. Hoffwn ddiolch i'r cyhoedd am eu hamynedd a'u dealltwriaeth."
Mae'r heddlu'n gofyn i unrhyw un sydd gyda unrhyw wybodaeth allai helpu’r ymchwiliad i gysylltu gyda swyddogion yn yr Uned Plismona'r Ffyrdd trwy ddefnyddio'r gwasanaeth SgwrsFyw, neu drwy alw 101, gan ddyfynnu cyfeirnod 22000314137.