Cyhoeddi cynlluniau gŵyl gyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd
Dim ond 50 diwrnod sydd i fynd tan ŵyl gyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd 2023.
Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi cynlluniau’r ŵyl eleni, fydd yn digwydd ym Mhorthmadog ar ddydd Sadwrn 25 Mehefin.
Bydd y diwrnod yn gyfle i’r ardal groesawu’r Eisteddfod, ac i’r Brifwyl groesawu trigolion lleol i’r Eisteddfod.
Fel rhan o’r ŵyl, bydd Gorsedd Cymru’n gorymdeithio drwy’r dref, cyn cynnal eu seremoni draddodiadol, gyda’r copi cyntaf o Restr Testunau Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd yn cael ei gyflwyno i’r Archdderwydd gan Gadeirydd y Pwyllgor Gwaith, Michael Strain.
Dywedodd Mr Strain: “Fe fydda i’n falch iawn o gyflwyno’r copi cyntaf o’r Rhestr Testunau i’r Archdderwydd, gan fod cyhoeddi’r gyfrol hon yn garreg filltir bwysig yn y daith tuag at yr Eisteddfod.
“Mae hi wedi bod yn dipyn o daith hyd yn hyn. Roedden ni’n dechrau mynd i hwyl wrth drefnu pob math o ddigwyddiadau a gweithgareddau ar draws y dalgylch, ac fel gyda phopeth arall, fe ddaeth i stop, gyda nifer fawr o’n pwyllgorau apêl yn troi’n grwpiau cymunedol yn cefnogi trigolion lleol.
“Mae’n hynod braf felly nodi mai dim ond 50 diwrnod sydd i fynd tan y Cyhoeddi, ac wrth i ni edrych ymlaen, mae’n braf gallu dweud bod llond lle o weithgareddau’n cael eu trefnu yn wythnosol, a bod y cyffro a’r edrych ymlaen a oedd mor amlwg i’w weld dwy flynedd yn ôl wedi hen ddychwelyd i’r ardal, a’n bod ni’n edrych ymlaen am chwip o Eisteddfod y flwyddyn nesaf.”
Mae tîm o wirfoddolwyr lleol hefyd wedi trefnu gweithgareddau ar draws yr ardal, gyda’r rhain yn rhedeg am ran helaeth mis Mehefin.
Bydd Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd yn cael ei chynnal o 5-12 Awst y flwyddyn nesaf, gyda Cheredigion yn croesawu’r Brifwyl i gyrion tref Tregaron o 30 Gorffennaf i 6 Awst eleni.