Mam 'Baby P' i gael ei rhyddhau o'r carchar wedi gwrandawiad parôl

Mae disgwyl y bydd Tracey Connelly, mam y bachgen oedd yn cael ei adnabod fel 'Baby P', gael ei rhyddhau o'r carchar yn dilyn gwrandawiad parôl.
Bu farw ei mab Peter yn 17 mis oed ar ôl dioddef camdriniaeth erchyll gan bartner ei fam, Steven Barker, a'i frawd Jason Owen dros gyfnod o wyth mis yn Haringey, Llundain.
Fe gafodd Connelly ei charcharu yn 2009 am achosi neu alluogi marwolaeth ei phlentyn, a derbyniodd leiafswm o bum mlynedd dan glo, cyn cael ei rhyddhau yn 2013.
Ddwy flynedd yn ddiweddarach fe gafodd ei charcharu unwaith eto ar ôl torri amodau ei pharôl.
Hwn oedd y pedwerydd gwrandawiad parôl iddi fod yn rhan ohono, ar ôl i'w chais am ryddid gael ei wrthod yn 2015, 2017 a 2019.
Darllenwch ragor am y stori yma.
Llun: ITV