Arestio dau ddyn ym Mhwllheli ar amheuaeth o gaethwasiaeth fodern
Mae dau ddyn wedi’u harestio ym Mhwllhei fel rhan o ymchwiliadau i asiantaeth recriwtio sydd dan amheuaeth o gyflenwi myfyrwyr bregus i gartrefi gofal yn y gogledd.
Cafodd y ddau ddyn 24 a 46 oed eu harestio gan swyddogion o'r Awdurdod Meistri Gangiau a Cham-drin Llafur yn dilyn cyrch yn gynnar fore dydd Iau.
Mae’r ddau ddyn yn cael eu holi ar amheuaeth o droseddau llafur gorfodol a masnachu mewn pobl o dan Ddeddf Caethwasiaeth Fodern 2015.
Ym mis Rhagfyr y llynedd dywedodd Awdurdod Meistri Gangiau a Cham-drin Llafur fod naw myfyriwr Indiaidd wedi dioddef caethwasiaeth fodern a chamfanteisio ar lafur posib fel rhan o'r ymchwiliad.
Cafywd hyd i'r gweithwyr yn cysgu ar fatresi ar lawr "mewn amodau cyfyng, oer ac afiach mewn dau gyfeiriad ym Mae Colwyn" medd yr Awdurdod.
Cafodd pum dioddefwr posib arall, hefyd o India ac ar fisas myfyrwyr, eu hadnabod yn y gymuned ac maen nhw'n derbyn cefnogaeth gan yr awdurdodau.
Asiantaeth recriwtio
Fr gafodd gŵr a gwraig oedd yn nyrsys cofrestredig ac yn rhedeg asiantaeth recriwtio, eu harestio yn eu cartref yn Abergele ar amheuaeth o droseddau caethwasiaeth fodern.
Mae'r ddau wedi eu rhyddhau o dan ymchwiliad.
Nid yw'r chwe chartref gofal bellach yn defnyddio gweithwyr a gyflenwir gan yr asiantaeth recriwtio.
Yn ôl adroddiadau gafodd eu darparu i'r Llinell Gymorth Caethwasiaeth Fodern, roedd gweithwyr eu hasiantaeth yn cyrraedd y gwaith wedi blino ac yn "drewi".
Roedd y gweithwyr hefyd yn llwglyd drwy'r amser a chawsant eu gweld yn bwyta gweddillion prydau bwyd preswylwyr y cartrefi gofal.
Dywedodd Uwch Swyddog Ymchwilio GLAA Martin Plimmer: “Mae hwn yn ymchwiliad cymhleth, ac yn un sy’n gofyn am lefel benodol o sensitifrwydd o ystyried y sector y mae’r camfanteisio honedig wedi digwydd ynddo.
“Wedi dweud hynny, ni fyddwn yn goddef ecsbloetio gweithwyr bregus o dan unrhyw amgylchiadau.
“Mae’n hanfodol bod pobl yn parhau i fod yn ymwybodol o’r arwyddion o gamfanteisio ac yn adrodd eu pryderon i ni er mwyn i ni allu gweithredu, fel rydyn ni wedi’i wneud heddiw.”