Newyddion S4C

Ffilm am fywyd ffermwr o Ddyffryn Teifi'n cael ei dangos yn Efrog Newydd

Wales Online 05/05/2022
Heart Valley/ Gŵyl Ffilmiau Tribeca

Mae rhaglen ddogfen fer am fywyd ffermwr o Ddyffryn Teifi'n cael ei dangos mewn gŵyl ffilmiau ryngwladol yn Efrog Newydd.

Mae 'Heart Valley'n dilyn diwrnod o fyd gwaith Wilf Davies wrth iddo edrych ar ôl ei braidd o 71 o ddefaid.

Dim ond unwaith mae Mr Davies wedi gadael Cymru mewn 30 o flynyddoedd, ac mae'n bwyta'r un pryd bwyd i swper bob nos ers degawd bellach.

Bydd y ffilm, sydd wedi ei chyfarwyddo gan  Christian Cargill yn cael ei dangos yng Ngwyl Ffilmiau Tribeca.

Darllenwch ragor yma.

Llun: Heart Valley/ Gŵyl Ffilmiau Tribeca

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.