Cwest Keith Pontin: 'Ergydion i'r pen' oedd achos dementia'r cyn bêl-droediwr

Cwest Keith Pontin: 'Ergydion i'r pen' oedd achos dementia'r cyn bêl-droediwr
Clywodd cwest ym Mhontypridd bod cyn chwaraewr pêl-droed rhyngwladol wedi marw o'r cyflwr dementia gafodd ei achosi gan ergydion cyson i'w ben.
Bu farw Keith Pontin yn 64 oed fis Awst 2021, bum mlynedd ar ol cael deiagnosis o dementia. Fe chwaraeodd dros Gymru ac yn gyson i Gaerdydd yn y saithdegau ac wythdegau cynnar.
Mae cyn-ymosodwr Cymru Iwan Roberts wedi bod yn ceisio dysgu mwy am effaith penio pêl yn gyson ar yr ymennydd.
“Oedd o'n amddiffynnwr mawr cry' oedd yn dda yn yr awyr, oedd yn defnyddio ei ben yn aml mewn gêm a dim yn unig mewn gêm, ond pan oedd o yn ymarfer hefyd. A doedd 'na neb yn gwybod y dyddiau yna faint o effaith oedd penio'r peli mawr trwm 'na yn mynd i gael ar ymennydd y chwaraewyr".
Yn ôl Iwan Roberts, mae cymdeithasau pêl-droed Cymru, Yr Alban a Lloegr yn ystyried ffyrdd o gyflwyno newidiadau :
"Ma' nhw'n rhwystro chwaraewyr rhag penio peli yn rhy aml, a gormod o benio mewn ymarfer. Dwi'n meddwl bod hynna yn syniad da, ma' nhw 'di rhwystro plant ifanc rhag penio'r bêl o gwbl, a dwi'n meddwl bo' hynna yn beth gwych i'w wneud".
Ond dyw e ddim yn credu y dylid gwahardd penio yn llwyr : "Na, 'swn i'm yn licio i weld o, achos dim ond llond llaw o weithiau 'sa chi'n penio pêl mewn gêm a deud y gwir".