Reid Steele: Cadw mam a laddodd ei mab dwy oed mewn ysbyty diogel

Mae mam wedi'i chadw mewn ysbyty diogel ar ôl cyfaddef lladd ei mab dwy oed.
Roedd Natalie Steele o Ben-y-bont ar Ogwr wedi pledio'n euog i gyhuddiad o ddynladdiad ar y sail nad oedd yn ei iawn bwyll.
Mae dau seiciatrydd fforensig wedi darganfod ei bod yn dioddef o salwch meddwl pan laddodd ei mab.
Bu farw Reid Steele yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd fis Awst y llynedd, ar ôl cael ei ddarganfod wedi boddi yn ystafell ymolchi ei gartref yn ardal Broadlands.
Yn ystod y misoedd cyn marwolaeth Reid Steele, roedd ei fam wedi adrodd am rithdybiaethau, gan gynnwys gweld orbs arnofiol a chredu bod ei theulu wedi eu meddiannu gan ysbrydion.
Cafodd Steele, 31 oed ei chadw o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl ddydd Mawrth yn Llys y Goron Caerdydd.
Darllenwch y stori'n llawn yma.