Swyddogion yn brwydro tân mewn coedwig ger Corwen
01/05/2022
Mae swyddogion wedi bod yn brwydro tân dros nos mewn coedwig ger Corwen yn Sir Ddinbych.
Dywedodd llefarydd ar ran y Gwasanaeth Tân fod chwe criw o naw tref ar draws gogledd Cymru wedi eu galw i’r digwyddiad prynhawn dydd Sadwrn.
Roedd hofrennydd hefyd yn helpu i ollwng dŵr ar y tân ac roedd tri chriw yn parhau yn yr ardal ddydd Sul.
Fe gynghorwyd pobol i gadw draw o'r ardal.
Dywedodd y Gwasanaeth fe fydd criwiau yn ail-asesu ardal y tân ddydd Llun.