Nifer y plant yn y DU sy'n dioddef o hepatitis yn cynyddu i 145

Mae pryderon yn sgil y cynnydd yn y nifer o blant sy’n dioddef o hepatitis yn y DU.
Dywedodd Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU bod cynnydd o 34 achos ond bod y rhan fwyaf wedi gwella ac nid oedd unrhyw blentyn wedi marw.
Mae’r asiantaeth yn dal i ymchwilio’r achosion ond yn dweud y gall diffyg cysylltiad gyda firysau yn ystod y pandemig fod yn ffactor.
Dywedodd Dr Meera Chand, cyfarwyddwr clinigol yr asiantaeth: “Gwn fod hyn yn gyfnod pryderus i rieni plant ifainc ond mae tebygolrwydd bod eich plentyn yn datblygu hepatitis yn isel iawn.”
Darllenwch fwy yma.