Newyddion S4C

Rhagolwg Rownd Derfynol Cwpan Cymru JD

Sgorio 01/05/2022
pel droed

Bydd Pen-y-bont a’r Seintiau Newydd yn cyfarfod yn Stadiwm Dinas Caerdydd prynhawn Sul yn rownd derfynol Cwpan Cymru JD 2021/22.

Mae Pen-y-bont wedi cyrraedd rownd derfynol y gystadleuaeth am y tro cyntaf yn eu hanes a bydd tîm Rhys Griffiths yn ysu i achosi sioc i gael eu henw ar y tlws a sicrhau lle yn Ewrop.

Pen-y-bont bydd clwb rhif 53 i ymddangos yn rownd derfynol Cwpan Cymru, a pe bae nhw’n fuddugol, nhw fyddai clwb rhif 35 i ennill y Gwpan.

Ond ar ôl selio’r bencampwriaeth am y tro cyntaf ers tair blynedd bydd Anthony Limbrick yn anelu am y dwbl yn ei dymor llawn cyntaf fel rheolwr Y Seintiau Newydd.

Y Seintiau Newydd yw deiliaid presennol y cwpan ar ôl ennill y gystadleuaeth am y seithfed tro yn eu hanes yn 2018/19, sef y tro diwethaf i’r gystadleuaeth gyrraedd ei therfyn.

Dyw’r Seintiau Newydd heb ildio gôl wrth drechu Llanrwst, Conwy, Caerfyrddin, Cegidfa a Bae Colwyn yn y gwpan eleni, tra bod Pen-y-bont wedi curo Gwndy, Cambrian a Clydach, Caernarfon, Ffynnon Taf a’r Bala i gyrraedd y rownd derfynol.

Gemau agos

Mae’r bedair gêm gynghrair rhwng y timau’r tymor yma wedi bod yn rhai agos tu hwnt gyda dwy o rheiny’n gorffen yn gyfartal, ond dyw’r Seintiau Newydd erioed wedi colli yn erbyn Pen-y-bont (ennill 9, cyfartal 2).

Os yw momentwm yn ffactor gwirioneddel mewn pêl-droed yna mae’n gaddo i fod yn brynhawn caled i fechgyn Pen-y-bont gan eu bod wedi colli eu saith gêm ddiwethaf gan sgorio dim ond un gôl (vs YSN).

Ac er i Rhys Griffiths chwarae’r tîm ieuenctid yn erbyn Y Bala’r penwythnos diwethaf byddai’r golled drom o 11-0 heb wneud dim i hyder y garfan.

Dyw’r Seintiau ar y llaw arall ond wedi colli un o’u 21 gêm ddiwethaf ym mhob cystadleuaeth (vs Drenewydd), ac ar ôl sicrhau’r Esgid Aur y penwythnos diwethaf bydd yr Albanwr, Declan McManus yn awyddus i ychwanegu at ei 30 o goliau ym mhob cystadleuaeth y tymor yma.

Gyda’r Seintiau eisoes yn saff o’u lle’n Ewrop, byddai buddugoliaeth iddyn nhw yn golygu bod y tîm orffenodd yn drydydd yn y cynghrair, sef Y Drenewydd yn cipio’r tocyn olaf i Ewrop.

Bydd y cyfan yn fyw ar S4C am 15:40 yng nghwmni Dylan Ebenezer, Nic Parry, Sioned Dafydd a’r cyn-chwaraewyr rhyngwladol Gwennan Harries, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.