Theatr Bara Caws i gyd-weithio ar gynllun ‘arloesol’ ym myd iechyd

Mae Theatr Bara Caws wedi cyhoeddi eu bod yn bwriadu dechrau darparu gwasanaethau cymunedol, pan fydd y cwmni theatr yn symud eu pencadlys i adeilad cymunedol newydd yng Ngwynedd.
Mae'r cynlluniau ar gyfer creu hwb iechyd newydd ym Mhenygroes, Dyffryn Nantlle.
Mae Theatr Bara Caws yn cyd-weithio gyda Chyngor Gwynedd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr fel rhan o gywaith dan ofal Grŵp Cynefin.
Bydd Canolfan Lleu yn cynnwys fflatiau, cyfleusterau meddygol, swyddfeydd a phencadlys newydd i Theatr Bara Caws.
Darllenwch fwy yma.
Llun: Canolfan Lleu