Dylai’r DU reoli Ynysoedd Prydeinig y Wyryf oherwydd llywodraethu 'dychrynllyd o wael'

Mae adroddiad wedi datgan y dylai'r gofal o Ynysoedd Prydeinig y Wyryf (British Virgin Islands) gael ei drosglwyddo yn ôl i lywodraeth y DU.
Fe ddaw'r adroddiad yn sgil arestio Arweinydd yr ynysoedd am gynllwynio i fewnforio cocên i America ac o brosesu arian anghyfreithlon.
Dywed yr adroddiad gan y barnwr Sir Gary Hickinbottom fod gweithdrefnau llywodraethol yr ynysoedd yn “ddychrynllyd o wael.”
Mae’r adroddiad yn dweud y dylai cyfansoddiad yr Ynysoedd gael ei ddileu am ddwy flynedd.
Fe gafodd Oleanvine Maynard, rheolwr gyfarwyddwr awdurdod porthladdoedd yr ynysoedd yn y Caribî, hefyd ei harestio'r wythnos hon yn ogystal â'i mab.
Mae'r Asiantaeth Gorfodaeth Cyffuriau yn honni bod y ddau wedi ceisio trefnu cyfarfod efo Mr Fahie er mwyn sefydlu lle i storio miloedd o gilogramau o gyffuriau o Colombia, gan eu cadw yn Ynysoedd Prydeinig y Wyryf cyn eu mewnforio i Miami neu Efrog Newydd.
Darllenwch y stori yn llawn yma.
Llun: Twitter