Pryder bod cyfryngau cymdeithasol fel TikTok yn hybu 'nostalgia'
Pryder bod cyfryngau cymdeithasol fel TikTok yn hybu 'nostalgia'
Mae ymchwilwyr yn pryderu bod cyfryngau cymdeithasol fel TikTok yn hybu teimladau o nostalgia ymysg pobl ifanc.
Yn ystod y cyfnod clo, bu llawer o bobl ifanc yn troi at gyfryngau cymdeithasol. I nifer, roedd yn cynnig cysur.
Yn ôl gwasanaeth newyddion Reuters, TikTok oedd yr ap mwyaf poblogaidd yn 2020, gyda nifer y defnyddwyr yn cynyddu 45% ym mis Gorffennaf 2020.
I nifer erbyn hyn, maen nhw’n teimlo nostalgia am y cyfnod clo. Ers dechrau 2022, mae cannoedd o ddefnyddwyr wedi creu cynnwys yn hel atgofion am 2020.
I Ellis Lloyd Jones, sy'n creu cynnwys ar yr ap TikTok, atgofion melys sy'n llamu i'w feddwl wrth wylio cynnwys o'r cyfnodau clo.
Yr ap oedd yr unig gysur tra roedd mewn cwarantin ar ei ben ei hun ac yn bell o’i deulu.
“Roedd yn amser rili scary, gyda llwyth o ansicrwydd; oeddwn i ddim yn gwybod beth oedd yn ddigwydd," meddai.
“O'n i ddim yn gwybod beth i 'neud ond mynd i’r ap yma, lle oeddwn i’n gwybod ‘Ie, alla i gwario wyth awr ar hwn ac anghofio am beth sy’n digwydd tu fas i’r ffens yna’. Oedd bron fel emotional support.”
Pam bod cymaint o bobl ifanc yn teimlo nostalgia ar-lein?
Yn ôl y darlithydd Dr Ross Garner, o Brifysgol Caerdydd, mae nostalgia yn aml yn gysylltiedig â chyfnodau o aflonyddwch neu anesmwythder cymdeithasol.
Mae’n medru bod yn deimlad cyfforddus i fwrw golwg yn ôl ar gyfnod cyfarwydd, pan roedd profiadau pawb yn debyg i’w gilydd.
Yng nghyd-destun y cyfryngau cymdeithasol, mae synau cyfarwydd yn gallu sbarduno’r teimladau yma o nostalgia, yn ôl yr Athro Garner.
“Os mae audio yn dod lan o 2020, dwi’n cofio popeth – ac mae popeth dwi’n cofio mor positif… mae’n crazy galw hi’n nostalgic oherwydd ond dwy flynedd yn ôl oedd, ond mae’n teimlo’n gywir [defnyddio’r term],” meddai Ellis.
Sut mae TikTok yn gallu hybu nostalgia?
Mae Jac Lewis, myfyriwr ymchwil PhD ym Mhrifysgol Caerdydd wedi ymchwilio i nostalgia, ac yn dadlau bod cwmniau cyfryngau cymdeithasol yn cymryd mantais o’r teimlad yma o nostalgia ymysg yr ifanc.
“Mae’n wir imi fod strwythur cyfryngau cymdeithasol yn atgyfnerthu nostalgia.
“Mae’r ffaith bod cloc y ffôn methu’i gweld wrth bod chi’n sgrolio ar TikTok yn symbol perffaith o’r amser ein bod yn byw ynddi heddiw"
Mae goblygiadau hynny yn bryder i Jac Lewis ac arbenigwyr eraill sy'n astudio effaith y blynyddoedd digynsail diweddar.