
Jemima Nicholas: ‘Gallwn ni ddim gadael i’r hanes gael ei anghofio’
Ni ddylai hanes Jemima Nicholas fynd yn angof, yn ôl un o drefnwyr digwyddiadau i nodi 225 mlynedd ers ymosodiad y Ffrancod.
Fe fydd dwy sioe theatr yn cael eu perfformio yn Theatr Gwaun ddydd Sadwrn fel rhan o’r dathliadau.
Yn 1797, fe gyrhaeddodd milwyr o Ffrainc Abergwaun, gyda bwriad gwreiddiol i lanio ym Mryste.
Erbyn hyn, mae’r ddelwedd o Jemima Nicholas a’i phicwarch yn arestio milwyr o Ffrainc yn gyfarwydd i genedlaethau o blant Cymru.

Ar hyd y flwyddyn, mae cyfres o ddigwyddiadau wedi eu trefnu gan Ymddiriedolaeth Canolfan Ymosodiad Abergwaun i gofio am un o’r digwyddiadau mwyaf nodedig yn hanes y dref.
“Mae hon yn flwyddyn brysur iawn i ni,” meddai Julie Coggins o’r ymddiriedolaeth wrth Newyddion S4C.
“Mae’n rhaid i’r 225 mlwyddiant gael ei nodi, mae’n hanes unigryw i’r trefi hyn ac mae’n ddyletswydd ar Ymddiriedolaeth Canolfan Ymosodiad Abergwaun i drefnu’r digwyddiadau sy’n digwydd bob mis eleni.
“Gallwn ni ddim gadael i’r hanes gael ei anghofio ac fel tref rydym yn hoffi dathlu rhywbeth bob blwyddyn.”
'Trosglwyddo ffeithiau hanesyddol'
Derek Webb fydd yn cyfarwyddo’r ddwy sioe - The Last Invasion gan Matthew Sturgis a Conquest of the World gan Rob Taylor.
Mae’n credu bod theatr yn ddull priodol iawn i gyfleu hanes arwres leol i gynulleidfa fodern.
“Mae theatr yn gynhwysol iawn, mae’n galluogi pobl i weld pethau’n cael eu gweithredu yn fyw a dwi’n meddwl mai dyna’r peth pwysig,” meddai Mr Webb.
“Os ydych chi’n gweld ffilm neu rywbeth, mae’n gallu teimlo’n sych iawn, ond os mae ar lwyfan yn cael ei berfformio gan bobl wedyn mae’n dipyn mwy atyniadol ac yn helpu i drosglwyddo ffeithiau hanesyddol.

Mae Jonathan Preece yn rhan o gast y ddwy sioe ac fe ddywedodd bod ail-greu stori adnabyddus yn brofid braf.
“Ma’ Jemima pob man yng ngorllewin Cymru, lawr i Aberteifi, Newport, ma’ pawb yn gwbod amdani hi, so mae’n neis i dod ‘ma i ‘neud,” meddai.