Newyddion S4C

Cymru'n gobeithio sicrhau eu Chwe Gwlad gorau ers degawd wrth herio'r Eidal

30/04/2022
Siwan Lilicrap

Fe fydd modd i ferched Cymru sicrhau eu perfformiad gorau yn y Chwe Gwlad ers dros ddegawd wrth iddynt herio'r Eidal ddydd Sadwrn. 

Byddai buddugoliaeth yn erbyn yr Eidalwyr ym Mharc yr Arfau yn sicrhau y bydd Cymru yn gorffen yn drydydd, ei safle uchaf ers 2009. 

Daw hyn ar ôl ymgyrch hanesyddol i'r garfan ar y cae ac oddi arno. 

Dim ond deufis cyn dechrau'r bencampwriaeth eleni, fe wnaeth y chwaraewyr cyntaf yn hanes tîm rygbi merched Cymru arwyddo cytundebau proffesiynol. 

Fe wnaeth y 12 chwaraewr proffesiynol newydd, yn ogystal ag 11 arall a wnaeth arwyddo cytundebau rhan-amser, nodi oes newydd i rygbi merched yng Nghymru yn dilyn cyfnod o ganlyniadau siomedig. 

Dechreuad addawol i'r cyfnod proffesiynol 

Mae'r buddsoddiad ychwanegol eisoes wedi talu ar ei ganfed wrth i Gymru wella eu canlyniad yn y bencampwriaeth y llynedd o fewn un gêm. 

Dechreuodd y bencampwriaeth eleni yn berffaith wrth i Gymru ennill dwy gêm yn olynol yn y Chwe Gwlad am y tro cyntaf ers 2015. 

Daw'r perfformiadau campus yn erbyn Iwerddon a'r Alban, dau dîm a drechodd Cymru yn 2021 wrth i'r merched mewn coch orffen ar waelod y tabl. 

Fe wnaeth y buddugoliaethau godi'r posibilrwydd o ba mor bell y gall Cymru ddatblygu gyda chymorth cytundebau proffesiynol. 

Ond, yn y gemau diwethaf, mae Cymru wedi'u hatgoffa o faint ymhellach y mae'n rhaid iddynt ddod er mwyn cystadlu gyda'r gorau yn y byd yn dilyn colledion trwm i Loegr a Ffrainc. 

Er gwaethaf y canlyniadau siomedig, mae prif hyfforddwr Cymru Ioan Cunningham yn hyderus y gall ei garfan orffen y bencampwriaeth ar nodyn uchel. 

Image
Cymru
Mae hi wedi bod yn bencampwriaeth gyffrous i Gymru.

Maent yn wynebu tîm o'r Eidal sydd hefyd wedi ennill cytundebau proffesiynol am y tro cyntaf cyn y bencampwriaeth eleni. 

Mae'r Eidalwyr ond wedi ennill un gêm yn y gystadleuaeth hyd yn hyn wrth iddynt gymryd y camau cyntaf i fod yn dîm proffesiynol. 

Serch hyn, mae Cunningham yn disgwyl "her fawr" yng Nghaerdydd ar brynhawn dydd Sadwrn.  

Mae'r prif hyfforddwr wedi arbrofi unwaith eto gyda'i garfan gychwynnol, wrth iddo gadw un llygad ar Gwpan y Byd yn hwyrach yn y flwyddyn. 

Bydd rheng flaen hollol newydd yn dechrau ar y cae i gymharu â'r un gollodd i Ffrainc dros y penwythnos, wrth i Cara Hope, Kelsey Jones a Donna Rose gamu mewn. 

Mae Alex Callendar a Sioned Harries hefyd yn dychwelyd i'r tîm cychwynnol yn y rheng ôl, gan wthio'r capten Siwan Lillicrap i'r ail reng. 

Bydd Ffion Lewis yn ail-greu ei phartneriaeth gyda Robyn Wilkins wrth gymryd lle Keira Bevan fel mewnwr, tra bod Kerin Lake yn camu yn ôl mewn i ganol y cae. 

Mae yna hefyd gyfle i Niamh Terry, sydd yn dechrau ei gêm gyntaf o'r bencampwriaeth fel cefnwr. 

Dywedodd Cunningham bod ganddo bob ffydd y gall y garfan sicrhau'r "tair buddugoliaeth mae'r grŵp yma'n haeddi" gan nodi moment arwyddocaol mewn datblygiad rygbi merched yng Nghymru.

Tîm Cymru 

Niamh Terry; Lisa Neumann, Hannah Jones, Kerin Lake, Jasmine Joyce; Robyn Wilkins, Ffion Lewis; Cara Hope, Kelsey Jones, Donna Rose, Siwan Lillicrap (capt), Gwen Crabb, Alisha Butchers, Alex Callender, Sioned Harries

Eilyddion: Carys Phillips, Caryl Thomas, Cerys Hale, Natalia John, Bethan Lewis, Keira Bevan, Lleucu George, Kayleigh Powell.

Fe fydd Cymru v Yr Eidal yn fyw ar S4C ddydd Sadwrn, gyda'r gic gyntaf am 12:00.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.