Newyddion S4C

Dau yn yr ysbyty gydag anafiadau difrifol yn dilyn gwrthdrawiad ger Nantgarw

29/04/2022
Llun o gar heddlu.

Mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio i wrthdrawiad ffordd ddifrifol ddydd Iau ar yr A468 ger Nantgarw gyferbyn â chyffordd Heol-Y-Dderwen. 

Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng beic a beic modur am oddeutu 13:15.

Roedd y beiciwr modur yn 17 oed ac o Gaerffili, a'r beiciwr yn 78 oed ac yn dod o Dreorci. Fe gafodd y ddau eu cludo i Ysbyty Athrofaol Cymru ar ôl dioddef anafiadau difrifol. 

Roedd y ffordd ar gau am gyfnod wrth i'r heddlu barhau â'u hymholiadau, ac mae gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu drwy ddefnyddio'r cyfeirnod 2200140132.  

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.