Mark Drakeford yn amddiffyn Eluned Morgan wedi ei gwaharddiad gyrru

Mae Prif Weinidog Cymru wedi amddiffyn y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan wedi iddi golli ei thrwydded am oryrru.
Fis diwethaf fe dorrodd Newyddion S4C y stori am ei gwaharddiad gyrru am chwe mis - trosedd sydd yn groes i gôd ymddygiad gweinidogion Llywodraeth Cymru.
Wrth drafod y datblygiad nos Fercher, dywedodd Mark Drakeford fod y mater wedi dirwyn i ben, ond mae Plaid Cymru'n galw ar Ms Morgan i gyfeirio ei hun i fod yn destun ymchwiliad dan y côd safonau.
Dywedodd Mr Drakeford wrth BBC Cymru fod y llysoedd wedi delio gydag achos Ms Morgan a bod y mater bellach ar gau.
Darllenwch ragor yma.