Newyddion S4C

Apêl wedi i barc plant yng Nghaerdydd gael ei ddifrodi'n sylweddol

28/04/2022
Ffram dringo

Mae Heddlu De Cymru yn apelio am ragor o wybodaeth wedi i barc plant yng Nghaerdydd cael ei ddifrodi'n sylweddol. 

Cafodd yr ardal chwarae ym mharc Y Mynydd Bychan ei ddifrodi yn ystod oriau mân bore dydd Mercher. 

Mae lluniau yn dangos bod ffrâm ddringo'r parc wedi'i llosgi gan fandaliaid. 

Yn ôl yr heddlu, bydd trwsio'r difrod yn costio rhwng £8,000 a £10,000. 

Mae'r llu yn gofyn i unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth am y digwyddiad i gysylltu gan ddefnyddio cyfeirnod 2200139072. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.