Newyddion S4C

Gweithwyr cegin a glanhawyr cartrefi gofal yn galw am daliad bonws fel gofalwyr

Gweithwyr cegin a glanhawyr cartrefi gofal yn galw am daliad bonws fel gofalwyr

Newyddion S4C 26/04/2022

Mae gweithwyr cegin a glanhawyr mewn cartrefi gofal yn galw ar Lywodraeth Cymru i newid polisi a sicrhau eu bod yn derbyn taliad bonws o £1000 - taliad sydd ar gael i weithwyr eraill yn y sector gofal.

Mae'r arian ychwanegol wedi ei gynnwys mewn pecynnau cyflogau gofalwyr sydd yn gymwys yn ystod mis Ebrill.

Mae tua 53,000 o staff yng Nghymru yn gymwys i dderbyn y taliad ychwanegol - tâl sydd yn cael ei wneud i weithwyr gofal a'r rhai sy'n darparu gofal yn y cartref.

Gobaith Llywodraeth Cymru yw y bydd y taliad yn helpu'r argyfwng recriwtio a chadw staff yn y maes gofal cymdeithasol.

Ond mae nifer o weithwyr cegin, glanhawyr a gwleidyddion wedi dweud wrth raglen Newyddion S4C eu bod yn teimlo bod y sefyllfa bresennol yn annheg.

Mynnu mae'r Llywodraeth bod gweithwyr o'r fath wedi cael taliadau ychwanegol yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.

Yng nghartref gofal Plas Hafan yn Nefyn, mae gweithwyr yn anfodlon na fyddan nhw'n derbyn y taliad. Un sydd yn anhapus gyda'r sefyllfa ydy Bethan Jones.

"Wel, gafon ni wbod bod 'na £1,000 gan y llywodraeth i gael gin pawb yn y cartra' i fod a wedyn mi ffindion ni allan nad o'dd y genod gegin na llnau ddim yn gael o," meddai.

Image
Kim Ombler.jpg
Mae Kim Obler yn berchennog ar gartref gofal ac yn dweud nad yw'n deg peidio â rhoi'r taliad i bob gweithiwr gofal.

'Darn o'r tîm'

Mae perchnogion cartrefi gofal yn cefnogi'r alwad i roi'r bonws i'r gweithwyr cegin a glanhawyr, a hynny'n bennaf gan eu bod yn chwarae rhan hollbwysig o gynnig gwasanaeth i breswylwyr.

Mae Kim Obler yn berchennog ar gartref gofal.

"Dwi'm yn meddwl bod hyn yn deg iawn.  Ma' powb sy'n gweithio yn y cartra' yn darn o'r tîm yn edrych ar ôl pawb.  Heb un darn o'r tîm fedrwn ni ddim gweithio," dywedodd.

Mae Plaid Cymru, y Democratiaid Rhyddfrydol a’r Ceidwadwyr am weld gweithwyr cegin a glanhawyr mewn cartrefi gofal yn cael y bonws fel y gofalwyr.

Cyfeiriodd y Blaid Lafur Newyddion S4C at ddatganiad gan Lywodraeth Cymru. 

Yn ôl y datganiad mae staff ategol mewn cartrefi gofal yn "gwneud gwaith gwerthfawr" a'u bod "wedi derbyn dau daliad o dros £1200 i gyd dros y ddwy flynedd diwethaf" i ddangos gwerthfawrogiad o’u gwaith yn ystod y pandemig.

Ychwanegodd y datganiad bod y taliad o £1000 "yn wahanol ac yn canolbwyntio ar y rhai sy’n darparu gofal uniongyrchol" a bod "blaenoriaeth i wella eu termau ac amodau gwaith" yn ogystal â’u cyfleoedd gyrfa.

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.