Carcharu dyn am wyth mlynedd am ladd drwy yfed a gyrru

The National - Wales 26/04/2022
Clemo

Mae dyn o Fedwas wedi ei garcharu am wyth mlynedd am ladd beiciwr tra roedd yn gyrru dan ddylanwad alcohol.

Bu farw Michael Partridge, 76 oed, ar ôl cael ei daro gan gerbyd Matthew Clemo oedd yn cael ei yrru ar ochr anghywir y ffordd ar y pryd.

Fe ddioddefodd Mr Partridge nifer o anafiadau angheuol yn ystod y digwyddiad ar Ffordd Pandy ym Medwas ar 25 Medi 2021.

Clywodd Llys y Goron Caerdydd fod Clemo wedi yfed cymaint fel nad oedd modd iddo sefyll ar ei draed heb gymorth yn dilyn y digwyddiad.

Fe blediodd yn euog i gyhuddiad o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus.

Darllenwch ragor yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.