Teyrnged i feddyg 'arbennig' fu farw yn dilyn ymosodiad yng Nghlydach

Mae teulu meddyg fu farw yn dilyn ymosodiad yng Nghlydach fis Mawrth wedi talu teyrnged iddo.
Bu farw Dr Kim Harrison, 68, yn ysbyty ar 9 Ebrill, mis wedi iddo ddioddef anafiadau difrifol i'w wyneb yn ystod yr ymosodiad ger Abertawe.
Cafodd dyn 37 oed, Daniel Harrison, ei arestio a'i gyhuddo o geisio llofruddio yn dilyn y digwyddiad ar 12 Mawrth.
Mae Mr Harrison yn parhau yn y ddalfa wrth i ymchwiliadau'r heddlu barhau.
Wrth dalu teyrnged i Dr Harrison, dywedodd ei deulu ei fod yn ddoctor "uchel ei barch" oedd yn gweithio'n galed i sicrhau fod ei gleifion yn derbyn y gofal gorau posib.
"Er ein bod yn galaru colli dyn arbennig, rydym eisiau dathlu ei fywyd llawn a hapus," meddai'r teulu.
"Ni fyddwn fyth yn anghofio ei lwyddiannau na'n hatgofion gyda’n gilydd."
Darllenwch fwy yma.