Ffermwyr yn 'cerdded â'u llygaid ar gau' i sefyllfa o brinder bwyd

Mae ffermwyr yn "cerdded a'i llygaid ar gau" i sefyllfa o brinder bwyd yn ôl amaethwyr.
Mae'r ffermwyr yn dweud bod cynnydd mewn prisiau tanwydd, bwyd i'w hanifeiliaid a gwrtaith yn golygu eu bod yn lleihau faint o fwyd maent yn cynhyrchu ar eu ffermydd.
Yn ôl Gareth Wyn Jones, sydd yn ffermio ar fferm Tŷ'n Llwyfan yn Llanfairfechan mae 'r sefyllfa yn "frawychus".
"Fe allen ni fynd a chi i 10 fferm yn yr ardal gyfagos sydd nawr yn lleihau faint maen nhw yn cynhyrchu - ffermwyr ieir, cynhyrchwyr wyau, cynhyrchwyr llaeth, hyd yn oed cig eidion a chig oen am fod prisiau bwydo wedi mynd trwy'r to."
Yn ôl yr Independant, rhesymau rhyngwladol sydd wrth wraidd y cynnydd mewn costau fel y rhyfel yn Wcráin a phroblemau yn y gadwyn fwyd.
Darllenwch fwy yma.