Cynllun ynni'r môr ym Môn yn gam i greu 'chwyldro' adnewyddol?

Mae cynllun i ffrwyno ynni o donnau'r môr oddi ar arfordir Ynys Môn yn gam bychan ond pwysig ymlaen wrth ddatblygu ynni adnewyddol ar hyd y DU medd adroddiad yn The Observer.
Mae cynllun Morlais yn cael ei ddatblygu gydag un o grantiau olaf i Gymru o'r Undeb Ewropeaidd - gyda £31m yn dod o goffrau Brwsel ar gyfer y datblygiad.
Pan fydd wedi ei gwblhau, fe fydd y cynllun yn un o'r rhai mwyaf o'i fath yn y byd, ond mae angen datblygu rhagor ar gynlluniau o'r math yma medd un arbenigwr.
Dywedodd yr Athro Roger Falconer o Brifysgol Caerdydd wrth The Observer nad oes digon o gynlluniau fel Morlais yn cael eu datblygu. Un broblem meddai oedd nad oedd modd gweld manteision y fath gynlluniau tan yr oeddynt wedi eu cwblhau, ar roedd hynny'n gallu golygu cyfnod o flynyddoedd maith cyn gorffen y gwaith datblygu.
Mae Llywodraeth y DU yn dweud eu bod wedi eu hymrwymo'n llawn i ddatblygu cynlluniau ynni o donnau'r môr.
Darllenwch y stori'n llawn yma.
Llun: Morlais