Unigolyn yn y ddalfa ar ôl i gorff dynes gael ei ddarganfod mewn eiddo ym Môn
22/04/2022
Heddlu.
Mae Heddlu’r Gogledd wedi darganfod corff dynes mewn eiddo yn Maes Gwelfor, Rhydwyn, Ynys Môn ddydd Gwener.
Mae’r farwolaeth yn cael ei thrin fel un amheus, ac mae un person wedi eu cadw yn y ddalfa mewn perthynas â’r farwolaeth.
Dywed yr heddlu bod yr ymchwiliad “yn ei dyddiau cynnar iawn.”
Mae'r heddlu'n apelio ar unrhyw sydd â gwybodaeth i gysylltu gyda nhw gan ddefnyddio cyfeirnod B056492.