Newyddion S4C

Galw am ymddiheuriad gan Gyngor Sir Benfro wedi awgrym y dylid torri nôl ar fwyta cig a llaeth

Galw am ymddiheuriad gan Gyngor Sir Benfro wedi awgrym y dylid torri nôl ar fwyta cig a llaeth

Mae galwadau am ymddiheuriad gan gyngor Sir Benfro wedi i ddatganiad mewnol gan yr awdurdod i'w staff awgrymu y dylid  torri nôl ar fwyta cig a llaeth.

Mae'r datganiad, sydd wedi dod i law Newyddion S4C hefyd yn awgrymu bod diet o fwyta planhigion yn unig yn well i iechyd.

Mae hynny wedi cythruddo nifer mewn ardal wledig, gydag amaethyddiaeth ymhlith un o brif ddiwydiannau Sir Benfro. Dyw hi'n fawr o syndod felly bod nifer o ffermwyr yn credu bod y cyngor wedi eu bradychu.

Wrth siarad gyda Newyddion S4C, dywedodd Charles George sy'n ffermio yn Sir Benfro: Ma’n eithaf torcalonnus rili pan fi'n meddwl yn byti fe; bod nhw'n annog pobl i beidio bwyta cynnyrch ni, cynnyrch ni'n cynhyrchu yma yn Sir Benfro. Ma' gymaint o gynnyrch da yma.

"I fi yn bersonol ma' 'na gymaint o gynnyrch da yma yn Sir Benfro, siŵr o fod dylai nhw fod yn annog pobl i gefnogi busnesau lleol, i fwyta yn lleol, yn hytrach na chael ryw fath o fwyd fegan sydd falle wedi dod o unman dros y byd yn hytrach na bwyta bwyd lleol.

"Licien i weld nhw'n dod mas, ymddiheuro. Jyst gweud "we got it wrong". Dylse nhw cefnogi busnesau lleol, ffermydd sydd wedi ffermio ma' ers blynydde yn hytrach na annog pobl i beidio cefnogi ni."

Mae undeb yr NFU wedi galw am gyfarfod gyda Phrif Weithredwr Cyngor Sir Penfro, ac yn ôl cyn arweinydd y sir, y cynghorydd John Davies mae’r cyngor wedi anfon y neges anghywir i'w staff.

Mae'r cynghorydd John Davies yn sefyll yn ddiwrthwynebiad fel ymgeisydd annibynnol yn yr etholiadau lleol.

Wrth ymateb dywedodd y Democratiaid Rhyddfrydol "y dylai cynghorau sir ddim ceisio rheoli be ddylai staff fwyta neu beidio bwyta".

Mae Newyddion S4C wedi gofyn am ymateb gan y Blaid Geidwadol, Plaid Lafur a Phlaid Cymru.

Yn wreiddiol o Sir Benfro ond erbyn hyn yn byw yng Nghaerdydd, mae Sioned Haf Thomas yn postio ar dudalen Instagram sy'n canolbwyntio ar fyw'n iach drwy feganiaeth, ac yn credu bod angen i ni gymryd camau i ddiogelu'r blaned.

"Fi'n credu bod e'n bwysig annog bobl yn enwedig i fwyta mwy o blanhigion, meddai Ms Thomas.

"Fi yn cydnabod fod hi'n anodd torri cig mas yn gyfan gwbl, dyw hi ddim yn hawdd. Ond bod bob newid bach yn neud gwahaniaeth, fel torri cig mas. Hyd yn oed os yw e'n gwpl o brydau'r wythnos heb gig, wedyn ma'n lleihau'r effaith ma'n cael ar yr amgylchedd."

 Wrth ymateb dywedodd Cyngor Sir Benfro fod y cylchlythyr wedi ei gynnwys fel rhan o gyfres oedd yn rhoi awgrymiadau ar sut mae mynd ati i achub y blaned, a’r manylion wedi eu casglu o ffynhonnell allanol. Fe gafodd y datganiad ei ail-gynhyrchu y tu hwnt i’w gyd-destun, ac yn ôl yr awdurdod, dyw'r cylchlythyr ddim yn cael ei rannu, bellach. 

Maen nhw’n ychwanegu eu bod yn hynod gefnogol o’r gymuned wledig ac amaethyddiaeth yn gyffredinol.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.