Newyddion S4C

Aelodau Côr yr Urdd yn canu'n Alabama yn ystod taith arbennig

24/04/2022

Aelodau Côr yr Urdd yn canu'n Alabama yn ystod taith arbennig

Mae 24 person ifanc o Gymru wedi cael profiad bythgofiadwy ar ôl teithio i Alabama yn Unol Daleithiau'r America fel rhan o Gôr yr Urdd. 

Fe gafodd y côr ei ffurfio i ddathlu canmlwyddiant yr Urdd eleni ac roedd y daith i Alabama yn rhan o'r arlwy i nodi'r canmlwyddiant.

Mae gan Gymru gysylltiad agos gydag Alabama, a hynny yn mynd yn ôl dros hanner canrif.

Fe gafodd pedwar plentyn eu lladd yn Eglwys y Bedyddwyr yn Birmingham, Alabama yn 1953, gyda'r mudiad hiliol, y Ku Klux Klan, yn gyfrifol am yr ymosodiad. 

Fe wnaeth pobl ar draws y byd ddatgan eu gwrthwynebiad yn sgil yr ymosodiad, gan gynnwys artist o Gymru. 

Penderfynodd John Petts ddylunio ffenestr wydr i'r eglwys fel symbol o undod  yn erbyn y trais, a hyd heddiw, mae'r ffenestr liwgar, sy'n cael ei hadnabod fel y 'Wales Window' yn parhau yno yn gofnod parhaol o'r gefnogaeth ddaeth o Gymru. 

Fe wnaeth Côr yr Urdd ganu yng ngwasanaeth Pasg Eglwys y Bedyddwyr, 16th St Birmingham ar 17 Ebrill.

Image
Rosa Parks

Mae partneriaeth yr Urdd â Phrifysgol Alabama wedi galluogi aelodau Côr yr Urdd i ddysgu mwy am ddiwylliant canu gospel a chael y cyfle i ganu ar y cyd gyda chôr gospel Prifysgol Alabama yn Neuadd Gyngerdd Jemison. 

Daeth cyfle hefyd i ddysgu mwy am hawliau sifil gyda theithiau i fannau hanesyddol Selma a Montgomery, gan gynnwys ymweliad â chartref Rosa Parks. 

Dywedodd Carwyn Hawkins, aelod o'r côr, bod yr "holl brofiadau ni  'di ca'l o ran yr hanes ni 'di ddysgu ac o ran cwrdd â pobl sydd 'di profi'r hanes 'na yn ôl yn y 60au a'r holl ddiwylliant, ma fe'n mynd i aros yn y cof am byth."

Fel rhan o'r bartneriaeth, mae'r Urdd hefyd yn gobeithio gwahodd côr Prifysgol Alabama i Gymru er mwyn parhau â'r cysylltiad trawsatlantig.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.