Teyrnged i ddyn fu farw mewn gwrthdrawiad yn Sir y Fflint
Mae teulu dyn fu farw mewn gwrthdrawiad ffordd yn Sir y Fflint bron i wythnos yn ôl, wedi rhoi teyrnged iddo.
Roedd Jack Daniel Elden Chahal yn 22 oed ac yn dod o Brestatyn.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar ffordd yr A548 ym mhentref Gronant ar fore Sul 17 Ebrill.
Mewn datganiad gan Heddlu Gogledd Cymru, mae teulu Mr Chahal wedi ei ddisgrifio fel “enaid gofalgar, doniol a hardd gyda chwerthiniad heintus. Roedd y mab a brawd gorau gallech fod wedi'i ofyn amdano, ac roedd yn hynod warchodol o'i deulu.”
Roedd Mr Chahal wedi treulio amser yn astudio yn y coleg, ond ei brif nod oedd sefydlu ei fusnes TG ei hun.
Fe ychwanegodd y teulu: “Roedd bob amser yn rhoi pobl eraill yn gyntaf, ac roedd yn gymeriad hapus braf. Roedd yn ddyn ifanc ffyddlon a oedd â chalon aur, ac roedd pawb yn ei hoffi.
“Bydd ef gyda ni yn ein calonnau a'n hatgofion am byth a chollir ef yn fawr. Ni chaiff fyth ei anghofio."
Mae’r heddlu yn parhau i apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth a all fod o gymorth i’r ymchwiliad i gysylltu â nhw drwy ddyfynnu rhif cyfeirnod 22000263059.